Ymaelodwch
Croesawn fyfyrwyr a thrigolion lleol, boed o Gymru neu â diddordeb yn y Gymraeg
Pwy ydym ni?
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen a chymuned ehangach Swydd Rhydychen. Sefydlwyd y gymdeithas ym 1886, gan ei gwneud hi'n gymdeithas hynaf Rhydychen ac eithrio'r Oxford Union. Fe’i gelwir gan ei haelodau yn 'Y Dafydd'. Yn y 1990au, roedd nifer o rifynnau cylchgrawn y gymdeithas (Yr Aradr) yn cynnwys erthyglau ar waith creadigol ei haelodau, ynghyd â chyfraniadau gan rai o’i siaradwyr gwadd. Mae’r traddodiad hwn wedi parhau gyda’n cylchgrawn blynyddol presennol, Y Drych.
Ymhlith ein haelodau sefydlol roedd O. M. Edwards a John Morris-Jones. Dechreuodd y gymdeithas dderbyn menywod yn aelodau yn ystod blwyddyn academaidd 1966–1967. Ymhlith ein cyn-aelodau adnabyddus mae Ifan ab Owen Edwards (sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru), Gwynfor Evans (gwleidydd), W. J. Gruffydd (ysgolhaig a gwleidydd), Rhodri Morgan (cyn-Brif Weinidog Cymru), Gwilym Owen Williams (archesgob), Ben Lake (AS Plaid Cymru), Delyth Jewell (Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru), a Rhys ab Owen (Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru).
Traddodiadau
Mae'r gymdeithas o'r un enw â'r bardd Dafydd ap Gwilym, ac roedd yn draddodiad i bob cyfarfod ddechrau gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, ac yna trafodaeth. Mae hyn yn parhau hyd heddiw. Roedd gan Y Dafydd rai defodau ffurfiol a swyddi â theitlau mawreddog, er mai’n fwriadol eironig oeddynt. Heddiw, mae’r llywydd yn cadw’r teitl Caplan.
Cynhelir gwasanaeth carolau Cymraeg bob Tymor Mihangel. Mae’r Dafydd hefyd yn cynnal ein Heisteddfod flynyddol bob Tymor Ilar. Ymhlith enillwyr blaenorol yr Eisteddfod mae Carwyn Tywyn (o Borth Tywyn) ac Alaw Jones (disgybl yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera).
Pwy oedd Dafydd ap Gwilym?
Ystyrir Dafydd ap Gwilym (c. 1315/1320 – c. 1350/1370) yn un o brif feirdd Cymru ac ymhlith beirdd canoloesol mwyaf Ewrop. Mae barddoniaeth Dafydd hefyd yn cynnig cipolwg unigryw ar symudiad trawsddiwylliannol, arferion diwylliannol a chadwraeth diwylliant yn wyneb goresgyniad. Credir i tua chant a saith deg o’i gerddi oroesi, er bod llawer eraill wedi’u priodoli iddo dros y canrifoedd. Ei brif themâu oedd cariad a natur. Ystyrir bod syniadaeth ehangach Ewropeaidd am gariad cwrtais, fel a welir ym marddoniaeth y trwbadwriaid o Brofens, wedi cael dylanwad sylweddol ar farddoniaeth Dafydd. Nod Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen yw anrhydeddu enw Dafydd ap Gwilym a phwysigrwydd llenyddiaeth Gymraeg i'r wlad hon ac i'r byd.
Image